• Carnifal y Gaeaf Penarth 2019

    ** Sadwrn 2 Mawrth *** Sul 3 Mawrth **** Llun 4 Mawrth ***** Mawrth 5 Mawrth

  • Sadwrn

    Carnifal y Gaeaf yn agor

    broken image

    SEREMONI AGORIADOL

    4 diwrnod o ddathlu a gwledda yn cychwyn

    Dewch i gynnau'r carnifal... Bydd Carnifal y Gaeaf Penarth yn dechrau gyda choroni'r "Pen Ffŵl" i lywyddu dros y dathliadau. Bydd dawnsio, canu a cherddorion hefyd. Lleoliad i'w gyhoeddi, ond bydd y tu allan yn rhywle, ar y gwair.

     

    Ar ddiwedd y seremoni, byddwn ni'n dawnsio i'r dref.

     

    Bydd angen gwisg arnoch chi... rhai syniadau yma

    broken image

    Ymunwch yn yr Hwyl

    Beth am greu grŵp carnifal gyda'ch ffrindiau a chymryd rhan?

    Mae mor hawdd â "jest troi lan". Dysgwch sut yma...

    broken image

    Bendigeidfran a'r beic

    Beicio o Benarth i Harlech

    Ie. Dyna'n union mae'n ddweud. Bydd y beiciwr rasys hirbell, Dave Hann, sy'n byw ger y Cymin yn beicio i Ogledd Cymru i ddweud wrth dref Harlech bod ein parti pedwar diwrnod wedi tanio ym Mhenarth. Bydd yn aros yn Aberteifi ar y ffordd, am luniaeth, cwsg a brecwast gyda phen Bendigeidfran. Bendigeidfran yw'r cawr mawr mwyn o Harlech yn hanesion y Mabinogi. Mae fersiwn carnifal Penarth yn honni i Bendigeidfran aros i wledda am bedwar diwrnod ym Mhenarth ar ei daith i Lundain.

    broken image

    Lansio cwrw

    Peint arbennig y Carnifal ar gael

    Mae'r bragdy o Fro Morgannwg, Tomos a Lilford, wedi datgan eu bod am fragu cwrw arbennig ar gyfer Carnifal y Gaeaf Penarth. Roedd y bragdy bychan yn ail ar restr Best Botanical Beers yr Independent, ac roedd eu cwrw du enwog, Cwrwgl, yn destun rhaglen ddogfen gan y BBC.

     

    Bydd y cwrw newydd, o'r enw CARNIFAL - Penarth Pale Ale, ar gael yn y dref dros gyfnod gwyliau'r carnifal hyd at Ddydd Mawrth Crempog.

     

    broken image

    Parti'r Carnifal

    rhywle - rhywsut : fe gawn ni barti

    I ddod yn fuan - manylion am ble i ddod i'r parti ar noson agoriadol y carnifal. Dewch yn ôl yma i gael manylion...

  • SUL

    Diwrnod 2 - yn cynnwys Gŵyl Chwerthin

    broken image

    Dathlwch Selsig Carnifal Penarth

    Dathlwch Selsig Carnifal Penarth

    Mae'n Sul y Selsig. Mae'r selsig wedi bod yn rhan ganolog o draddodiad carnifal y gaeaf yn Ewrop ers yr oesoedd canol, ac mae hanes o tua 4,000 o flynyddoedd i'r selsig. Mae'r ddau gigydd yng nghanol y dref, Cigyddion David Lush a Chigyddion Teulu Thompson, wedi dweud y byddan nhw'n creu selsig arbennig ar gyfer dathliadau carnifal Penarth. Pa un fyddwch chi'n ei drio gyntaf?

     

    Mae Tony Thompson o Gigyddion Thompson hefyd yn un o brif chwaraewyr blŵs yr organ geg yn Ne Cymru, felly gobeithio y cawn ei glywed yn canu yn y carnifal hefyd.

    broken image

    Disgo Sŵp

    Peidiwch ag anghofio'n gwreiddiau Cymreig

    Iawn, felly nid pawb sy'n hoff o selsig, ond mae dathliadau carnifal ar y gweill sy'n cynnwys bwyd di-gig hefyd. Hwre! Meddai'r anogwr carnifal, Richard Parry, "Dwi wedi bod mewn sgyrsiau hyfryd am lysiau yn y carnifal hefyd, ac mae sôn am Disgo Sŵp fel rhan o'r wledd. Bues i mewn disgo sŵp un tro yn Llandrindod. Roedd yn wefreiddiol ac yn flasus - ar yr un pryd. Byddwn ni'n cyhoeddi cyn gynted ag y daw'r manylion i mewn."

    broken image

    Gweithdai chwerthin

    I Ddatrys Heriau Cymdeithasol

    Rydym yn cefnogi, yn weithredol, y timau hyn i feddwl yn strategol ac i gyrchu adnoddau trawsffurfiannol i alluogi ehangu marchnadoedd ayb ayb

  • Llun

    Gŵyl Banc y Carnifal

    broken image

    Rhowch ŵyl banc i chi'ch hun!

    Dewch nawr, rydych chi'n haeddu un.

    Mae pobl wedi dechrau bwcio amser o'r gwaith, sy'n gwneud dyddiau carnifal Penarth yn wyliau ychwanegol, annisgwyl. Dychmygwch... Dim aros mewn maes awyr. Dim ciws. Dim pacio. Pam lai? Estynnwch eich dyddiadur a rhowch hoe aeafol i'ch hun yn ein tref.

    broken image

    Parti'r Carnifal

    rhywle - rhywsut : fe gawn ni barti

    I ddod yn fuan - manylion am ble i ddod i'r parti ar nos Lun y carnifal. Dewch yn ôl yma i gael manylion... cynigion ar y ffordd... a peidiwch ag anghofio rhoi gwybod i ni ble fydd eich parti chi! Fe ddown ni i ymuno gyda chi.

  • dydd Mawrth bras

    Dydd Mawrth Crempog / Ynyd - Mardi Gras

    broken image

    Pancos ar y Pier

    Dathliad carnifal i'r plant

    Dewch lawr i'r Pier ar ôl ysgol. Bydd y Pafiliwn yn agor ei ddrysau i blant y dref i ddathlu'r carnifal. Bydd Waterloo Tea Rooms ar y Pier yn gwneud crempogau a bydd Canolfan Ddiwylliannol Eidalaidd Cymru ac artistiaid carnifal yn rhoi help llaw i wneud mygydau. Os bydd hi'n braf, efallai awn ni am dro yn ein gwisgoedd ar hyd y prom. Os bydd hi'n glawio... dewch ag ymbarél!

    broken image

    Mardi Gras - Noson y Parti

    Os na wnei di - pwy wnaiff?

    Bydd Wonderbrass - band gŵyl rhyngwladol Cymru yn crwydro strydoedd, bariau a thai bwyta Penarth. Rydyn ni'n chwilio am leoliadau dawns a pharti...

    Gwnewch nodyn yn eich calendr a chwiliwch am wisg. Dyma'r NOSON FAWR.

  • YMUNWCH Â'R CARNIFAL

    Ar ôl datgan carnifal, does yna ddim pwyllgor trefnu canolog... Mae'n gweithio drwy fod grwpiau carnifal yn dod at ei gilydd i wneud pethau carnifalaidd. Gwnewch rywbeth arbennig rydych chi'n fwynhau, dathlwch fel grŵp o ffrindiau/teulu, trefnwch ddigwyddiad ar y stryd, ewch allan i'r dref mewn gwisgoedd carnifal gyda ffrindiau, helpwch i roi digwyddiad mwy at ei gilydd, neu drefnu eich gweithgaredd carnifal arbennig eich hun i bobl eraill... Mae'n dibynnu arnoch chi! Dyma rai syniadau...

    broken image

    Sbwyliwch eich hun

    Carnifal un dyn

    Uned leiaf y carnifal yw un person. Ti! Gallet ti redeg bath hir a gwrando ar gerddoriaeth drwy'r pnawn, neu guddio yn y sied yn gwrando ar Dafydd a Caryl ar y radio, mynd am dro, neu brynu'r trît yna buest ti'n addo i ti dy hun... mae'r carnifal yn dechrau gyda ti yn datgan gwyliau i ti dy hun.

    broken image

    Grŵp o ffrindiau / teulu

    Calon y carnifal

    Grwpiau bychan o ffrindiau a pherthnasau yn mynd allan gyda'i gilydd i gael sbort - dyma galon y carnifal. Waeth beth fo'ch oedran neu'ch hanes, mewn carnifal mae croeso i bawb roi gwisg ffansi amdanynt a dod i ddathlu. Gwnewch rywbeth y byddech chi'n wneud beth bynnag (mynd am bitsa, chwarae tennis, mynd â'r ci am dro) ond mewn gwisg ffansi. Neu gallech chi drefnu gweithgaredd arbennig ar gyfer y carnifal. Ymunwch â grwpiau eraill. Dyna sut mae'r carnifal yn dod at ei gilydd...

    broken image

    Clwb / sefydliad

    Peidiwch â chael eich gadael allan... ymunwch â'r parti

    Mae Penarth yn llawn clybiau, sefydliadau a chymdeithasau rhagorol. Mae cyfoeth aruthrol o fywyd a gweithgarwch yn y dref. Sut fydd eich sefydliad chi yn ymateb? Efallai mai'r pwyllgor fydd yn arwain neu - gan mai carnifal yw hwn - gallai fod fyny i chi! Cymerwch yr awenau. Awgrymwch rywbeth. Mawr neu fach - does dim ots. Os yw'n digwydd, mae'n rhan o'r carnifal!

    broken image

    Grŵp carnifal arbenigol

    Gweledigaeth ar gyfer y carnifal? .... Gwireddwch hi

    Efallai eich bod yn gwybod yn iawn beth hoffech chi ei wneud... Mae angen pobl ar y carnifal sy'n gallu trefnu syniadau a gweithgareddau ac annog pobl eraill i ymuno yn yr hwyl. Beth bynnag rydych chi'n ei wneud, rhannwch hynny gydag eraill... ac fe rown ni wybod i bobl - er mwyn i'r carnifal yma ddechrau, rhedeg a gorffen gyda digonedd o ysbryd.

     

    Artistiaid, cerddorion, busnesau, gweithwyr ieuenctid, trefnwyr... ewch i'r adran help yn eisiau

    broken image

    Ewch i ymweld â mascamp Penarth

    3 diwrnod o weithdai, cyngor a help cyn i'r carnifal ddechrau

    'Mascamp' yw'r lle i gyfarfod a chael help gyda'ch gwisg carnifal, syniadau, dyluniadau, cynlluniau, a'r lle i fynd i gyfarfod ag artistiaid carnifal a siarad am y carnifal.

     

    Ble: Pafiliwn Pier Penarth

    Dyddiad: Mercher 27 Chwefror, Iau 28 Chwefror & Gwener 1 Mawrth

     

    Amser: Prynhawn

    Oedran: Croeso i bawb o bob oedran, rhaid i'r rhai dan 16 oed ddod gydag oedolyn

     

    Gwnaed yn bosibl gydag artistiaid o Garnifal Butetown a chefnogaeth Waterloo Tea Rooms yn y Pier sy'n gwneud amser ar gyfer coffi a chacen yn y carnifal. Diolch.

  • rhuban y carnifal

    wedi'i greu ar gyfer ein carnifal, ar gael yn y dref, bydd yn agor drysau i chi

    broken image

    Prynwch ruban y carnifal

    i gael cynigion y carnifal a gostyngiadau

    Bydd busnesau, siopau, caffis a thai bwyta yn gwneud cynigion arbennig i unrhyw un sy'n gwisgo darn o ruban y carnifal. Byddwn ni'n rhestru'r cynigion ar y safle hwn.

    Ac fe rown wybod i chi ble i ffeindio'r rhuban o wythnos yma!

    Diolch i National Weaving Ltd yn Arberth, Sir Benfro am gyflenwi'r rhuban. Mae'n fendigedig!

  • cefndir

    Mae'r wefan hon wedi'i chreu gan grŵp o bobl sydd eisiau rhannu gwybodaeth a newyddion am Garnifal y Gaeaf Penarth.

     

    Bu llawer o bobl Penarth yn rhan o'r gwaith o greu'r dathliad agoriadol ysblennydd ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 2018 ym Mae Caerdydd, Carnifal y Môr. Roedd miloedd o bobl wedi gwirioni. Ers hynny mae llawer wedi bod yn sôn am garnifal yng Nghymru, felly dyma ni'n meddwl cynnal dathliad tebyg i garnifal y gaeaf ym Mhenarth.

     

    Wrth gwrs, mae rhai pobl yn gofyn... "Yw hi ddim dipyn bach yn fyr rybudd i gynnal digwyddiad fel hyn i'r dref gyfan?"

    Ond 'dyn ni'n dweud, os gallan nhw drefn Brexit rhyngwladol llawn mewn wyth wythnos, gallwn ni greu carnifal yn y dref mewn tair wythnos...

    Felly, amdani!

    ysbrydoliaeth

    hanesion carnifal

    dyma'r anogwr carnifal o Benarth, Richard Parry, yn sgwrsio gyda'r bobl a ddyfeisiodd weithgaredd gwallgof yng nghanolbarth Cymru

    ysbrydoliaeth

    hanesion carnifal

    roedd pobl o Benarth wrth wraidd y gwaith o greu'r carnifal a agorodd Eisteddfod Genedlaethol 2018

    ysbrydoliaeth

    hanesion carnifal

    daeth "Taith Gerdded Fawr" yr Eden Project, o Swydd Efrog drwy Gymru, i ben ym Mhenarth, gyda pharti mawr i'r gymuned yn 2017

  • bwyd a diod

     

    Mae'n amser dathlu. Gwnewch gynlluniau i bartïo - gartref ac ar draws y dref. Bydd gan siopau bwyd o amgylch y dref gynigion carnifal a chreadigaethau arbennig. Mae'r cigyddion yn gwneud selsig carnifal, cadwch lygad allan am gacennau carnifal, a bwydlenni carnifal - o amser brecwast tan amser gwely.

     

    Ac mae'r bragwyr Tomos a Lilford ym Mro Morgannwg yn bragu cwrw ar gyfer carnifal Penarth a fydd ar gael mewn tafarnau yn y dref. Felly gwahoddwch eich ffrindiau a'ch teulu. Gwleddwch yn eich cartref neu ewch i'r dref i ddathlu.

  • siopau a busnesau

    Mae llawer o siopau a busnesau yn y dref wedi dweud y gwnân nhw helpu gyda Charnifal y Gaeaf Penarth. O'r wythnos hon byddwch chi'n gallu prynu rhuban Carnifal Penarth - os oes darn gyda chi, bydd gostyngiadau ar gael a chynigion carnifal yn ystod cyfnod y Carnifal. Hefyd, bydd syniadau am wisgoedd, masgiau a phethau parti ar werth dros yr wythnosau nesaf. Efallai hoffech chi wneud rhywbeth ar gyfer y carnifal - a gofyn i'r siopau ei werthu. Newyddion am ba siopau a busnesau fydd yn rhoi cynigion arbennig yn fuan...

     

    Yn y cyfamser, os ydych chi'n rhedeg siop neu fusnes yn y dref ac eisiau gwneud cynnig carnifal i'r cyhoedd neu i grwpiau trefnu... rhowch wybod i ni. Fe rown ni wybod i bawb.

     

    NODDWCH Y CARNIFAL. Fe ddechreuon ni'r ŵyl hon heb ddim arian. Os gallwch chi noddi rhan o'r carnifal, neu wneud cyfraniad, byddem yn gwerthfawrogi hynny'n fawr iawn, a bydd yn gwneud gwahaniaeth mawr. Gallwn ni gyflogi mwy o artistiaid carnifal i ddod i weithio gyda'r dref a'n helpu i wneud y parti yma'n arbennig. Llinell nawdd - anfonwch neges neu ffoniwch Richard ar 07974 39 7771

    broken image

    Rhuban y Carnifal

    Cynigion y carnifal

    Bydd Rhuban Carnifal Penarth ar werth o'r wythnos hon o gwmpas y dref.

     

    Gallwch chi wneud cynigion carnifal i gwsmeriaid sy'n gwisgo rhuban carnifal dros benwythnos yr ŵyl.

  • gwisgoedd

    Mae gwisgo fyny yn rhan bwysig o'r carnifal...

     

    Mae fyny i chi. Edrychwch ar y traddodiadau o'r Caribî ac America. Efallai eich bod chi'n hoffi mygydau a gwisgoedd carnifal y Fforest Ddu yn yr Almaen. Penarth yw hwn - felly gallai'r "arth" fod yn beth mawr - crwydrwch o gwmpas y dref mewn gwisg arth (neu mewn mwgwd arth o leiaf). Mae Andy o Hamptons yn gwneud fersiwn Penarth o'r mygydau carnifal traddodiadol o Hen Ddyn a Hen Fenyw mae pobl hen ac ifanc fel ei gilydd yn eu gwisgo yn Oberkirch, yr Almaen. Neu efallai mai Brasil yw'r unig un i chi! Ac wrth gwrs, mae pedwar diwrnod i gyd, felly gallwch chi wisgo rhywbeth gwahanol bob dydd. Chaiff neb ddweud wrthoch chi beth sy'n iawn i chi. Chi sydd i fynegi eich hun. Chi sydd i fyw'r carnifal.

     

    Hefyd, caiff pawb sy'n gwisgo darn o ruban y carnifal ostyngiadau carnifal a chynigion arbennig mewn siopau, bariau, caffis a thai bwyta o gwmpas y dref.

    broken image

    Rhuban y Carnifal

    Lliwiau Carnifal Penarth

    Mae'r rhuban hyfryd hwn ar gyfer Carnifal Penarth o ffabrig gwead ac mae ar gael yn siopau'r dref yr wythnos hon.

    Bydd cynigion a gostyngiadau carnifal gwych ar gael i bawb sy'n gwisgo darn o ruban y carnifal.

  • helpwch i greu'r carnifal

    allwch chi ymuno, helpu neu arwain un o'r grwpiau hyn...?

    Artistiaid / gwneuthurwyr - croeso

    • Gwella ein hisadeiledd pen ôl a'n sgema bas data i helpu i wirio proffilio ar gyfer mynegeion perfformiad, logio, gwella'r system adrodd a rheoli gwaith. Ysgrifennu ETLau ychwanegol i gasglu, strwythuro a normaleiddio data o ffynonellau newydd a phresennol ar gyfer ein bas data. Creu APIau ychwanegol mewnol i amlygu'r data hwn i gymwysiadau pen blaen.
    • Wedi cael llond bol ar iaith gweinyddu'r celfyddydau? Allwch chi helpu tref i greu pedwar diwrnod o garnifal o'r gwaelod i fyny? Mae gyda ni rai cynigion gan artistiaid carnifal profiadol sy'n barod i rannu a gweithio gyda chi. Gan mai carnifal yw hwn a dyma'n blwyddyn gyntaf, does dim arian... (ochenaid)... ond os hoffech chi fod yn rhan o hyn.... croeso.

    cerddorion / diddanwyr - chwaraewch yn y carnifal

    • Mae'r dref yn llawn talent. Mae cerddorion o bob math yma yn y dref. Dathlwch a byddwch yn rhan o'r parti. Mae cerddoriaeth a cherddorion yn rhoi egni aruthrol i galon y carnifal. Rhowch gig mewn lleoliad newydd/hen yn y dref, perfformiwch ar y pafin, dilynwch y dathlwyr, ymunwch â'r rhai sy'n ymlwybro yn eu gwisgoedd dros gyfnod y carnifal. Mae Phil o siop Pencerdd yn cydlynu'r cynigion - tarwch heibio i'r siop wrth ymyl gorsaf drenau Penarth. Chwaraewch. Canwch. Chwaraewch.
    • Adar Rhiannon. Yn y Mabinogi yn ystod gwledd y cawr Bendigeidfran clywyd canu swynol gan adar Rhiannon. Ffansi gŵyl ganu o fewn y carnifal? Cysylltwch...

    Gweithgareddau i blant

     

    • Mae gweithgareddau gwych wedi'u trefnu yn barod ar gyfer y dydd Sadwrn a Dydd Mawrth Crempog. Ond mae angen mwy! Os ydych chi'n rhedeg meithrinfa, grŵp i blant neu ysgol - dyma'r cyfle perffaith i chi archwilio a dathlu carnifal. Gwnewch weithgaredd carnifal - i'ch hun, neu i'w rannu. Mae fyny i chi yn llwyr.
    • Cynigiwch rywbeth arbennig iddyn nhw. Y bobl orau i gynnal gweithgaredd carnifal i blant yw'r bobl sydd fel arfer yn rhedeg ac yn cynnal gweithgareddau, grwpiau a chlybiau i blant. Am eich bod chi'n gwybod yn union beth fyddai'ch plant chi'n gwirioni arno. Felly, cynigiwch rywbeth arbennig iddyn nhw, parti neu weithgaredd...
    • Talent trefnu? Rydyn ni'n chwilio am gydlynwyr gweithgareddau plant profiadol - i sicrhau fod pawb yn gwybod beth sy'n mynd ymlaen. Allwch chi helpu? Anfonwch neges...

    Oes syniad gwirion gyda chi?

     

    • Mae gyda ni daith feic hanner pan i Harlech, sgarmes selsig, ein cwrw ein hunain, gweithdai chwerthin, partis, pancos a phlatfform i chi gael hwyl... Os oes mwy o syniadau gwirion gyda chi am weithgaredd carnifal, yna cysylltwch da chi. Neu'n well byth, ewch ati i drefnu - fe rown ni wybod i bawb...
    • Jest gwnewch gyhoeddiad. Cyfarfu anogwr carnifal Penarth, Richard, â'r tîm a ddyfeisiodd Bencampwriaeth Snorclo Cors y Byd yn Llanwrtyd pan gerddodd ar draws Cymru ar gyfer yr Eden Project. Dyma ffilm fer: man versus horse  Pa bethau ddylen ni eu gwneud ym Mhenarth?

    Byw mewn tref arall yng Nghymru?

     

    • Dim problem. Dewch draw. Ar gyfer y dref mae ein carnifal ni, ond rydyn ni eisiau sbarduno carnifal mewn llefydd eraill yng Nghymru. Dewch â grŵp carnifal o'ch tref at ei gilydd, a dewch i'n helpu ni i ddysgu am y traddodiadau a chreu rhai newydd. Fe wnawn ni'r un fath i chi a dod i'ch gweld pan fyddwch chi'n datgan eich carnifal chi.
    • Byw yn rhywle yn y byd sy'n cymryd carnifal o ddifri?  Dewch. Dangoswch i ni sut rydych chi'n dathlu. Mae gyda ni rai cysylltiadau gyda phrofiadau carnifal yr Almaen, Crundale a Trinidad ond rydyn ni eisiau dysgu a datblygu... Cysylltwch!

    Noddwch y carnifal

     

    • Allwch chi helpu gyda nawdd? Dechreuon ni'r ŵyl hon heb ddim arian. Os allwch chi noddi rhan o'r carnifal, neu wneud cyfraniad ariannol, byddem yn gwerthfawrogi hynny'n fawr iawn a byddai'n gwneud gwahaniaeth aruthrol. Gallwn ni gyflogi mwy o artistiaid carnifal i ddod i weithio gyda'r dref a'n helpu ni i wneud y parti yn un arbennig iawn. Llinell nawdd - anfonwch neges neu ffonio Richard ar 07974 39 7771
    • Byddwn ni'n creu adran noddwyr ar y wefan hon yn fuan. Helpwch yn y ffordd hon, os gallwch chi.
  • anfonwch neges - rhowch wybod i ni beth rydych chi'n wneud - gwnewch gynnig - gofynnwch am help gyda'r carnifal - neu jest i ddweud helo

    Peidiwch â bod ofn anfon gair. Chi + carnifal = gwefreiddiol.